P-05-794 Gostwng yr Oedran Pleidleisio i Un ar Bymtheg
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sgiliau, ar ôl casglu 87 o lofnodion ar-lein.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ostwng yr oedran pleidleisio i un ar bymtheg ar gyfer yr etholiadau hynny lle y mae ganddo'r pwerau i wneud hynny.
Gwybodaeth ychwanegol:
Rydym yn byw mewn cymdeithas ddemocrataidd a dylai pob aelod ohoni feddu ar y gallu i fod yn gyfrifol am eu dewisiadau yn ein gwlad. Yn un ar bymtheg gallwch briodi, cael babi, a thalu trethi. Yn un ar bymtheg gallwch gyfrannu at economi'r wlad, ond ni allwch eto benderfynu sut y caiff arian cyhoeddus ei wario.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Islwyn
· Dwyrain De Cymru